Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 8 Mai 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 11:15 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies (Cadeirydd) Peter Black Christine Chapman Paul Davies Mike Hedges Ann Jones Julie Morgan |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Gareth Price (Clerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Ieuan Wyn Jones. Nid oedd unrhyw ddirprwyon.
2. Papurau i'w nodi
2.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Cartrefi Cymunedol Cymru ac ymateb Llywodraeth Cymru i Buddsoddi i Arbed.
2.2 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ebrill.
3. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
4. Ardaloedd Menter - Ystyried y cylch gorchwyl drafft
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl drafft a chytunodd i ymweld ag Ardal Fenter Sain Tathan ar 22 Mai.
4.2 Nododd y Pwyllgor y byddai ganddo hefyd ddiddordeb mewn ymweld ag Ardaloedd Menter eraill yng Nghymru yn y dyfodol agos.
4.3 Gofynnodd y Pwyllgor am bapur astudiaeth cymharol gan y Gwasanaeth Ymchwil ar yr Ardaloedd Menter sydd eisoes wedi’u sefydlu neu sydd wedi’u sefydlu’n ddiweddar.
4.4 Cytunodd y tîm clercio i ddarparu trawsgrifiad o’r sesiwn flaenorol ar Ardaloedd Menter a gynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ar 29 Tachwedd 2012.
5. Gwariant Ataliol - Papur Opsiynau
5.1 Trafododd y Pwyllgor y papur opsiynau a chytunodd y byddai’n canolbwyntio ar wariant ataliol. Dyma’r ddau opsiwn dewisol:
· Defnyddio gwariant ataliol yn ganolbwynt i’r gwaith o graffu ar y gyllideb ddrafft.
· Edrych ar un o feysydd polisi penodol Llywodraeth Cymru ar ôl y gyllideb e.e. gwaith yn erbyn tlodi.
6. Goblygiadau ariannol y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru)
6.1 Trafododd y Pwyllgor bapur y Gwasanaeth Ymchwil ar oblygiadau ariannol y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) a chytunodd bod yr agweddau ariannol a chyfrifyddiaeth sy’n berthnasol i’r Bil o ddiddordeb penodol.
6.2 Cytunodd Clerc y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i bennu pa Weinidog i’w wahodd i’r Pwyllgor i fynd i’r afael â’r materion ehangach hyn.
6.3 Gofynnodd y Pwyllgor i’r Gwasanaeth Ymchwil ddarparu dadansoddiad manwl o gostau blynyddol y Bil Addysg Bellach ac Uwch a sut y cânt eu cyfrifo; diffiniad o beth yw sefydliad nad yw’n gwneud elw; a phapur ar y gwahaniaethau a fabwysiadwyd rhwng Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon o ran sut mae Sefydliadau Addysg Bellach yn cael eu dosbarthu.
7. Rheoli Asedau - (Grŵp Arwain y Gwasanaethau Cyhoeddus) Arddangos ei system E-Pims
7.1 Arddangosodd Grŵp Arwain y Gwasanaethau Cyhoeddus ei system E-Pims i’r Pwyllgor.